Dewch i ni ddathlu gwaith anhygoel y sector elusennol

Mae 25–29 Tachwedd yn Wythnos Elusennau Cymru 2024 ac rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan trwy rannu fideo 1 munud byr am eich gwaith gyda ni.

Byddwn yn lledaenu’r gair trwy hyrwyddo’ch fideo ar gyfryngau cymdeithasol.

Os oes angen help arnoch i greu eich fideo, mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi llunio canllaw syml i’ch rhoi ar ben ffordd: https://welshcharitiesweek.cymru/#resources

Bydd angen i chi hefyd ein hawdurdodi i ddefnyddio’ch fideo trwy lofnodi’r ffurflen rhyddhau delwedd yma.