Cyflwyniad i ddiogelu data ar gyfer y sector gwirfoddol
3 Rhagfyr 2024
9.45 am – 12.45 pm | Ar-lein
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
1 x sesiwn 3 awr / ar-lein
Amcanion
Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn rhoi gwybodaeth allweddol i chi am ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU, gan gynnwys y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) ar gyfer y DU a’r UE, gan roi ymwybyddiaeth i chi o ddiogelu data a’i effaith ar eich rôl.
Cynnwys
Rydyn ni wedi gweld newidiadau sylweddol mewn cyfreithiau diogelu data gyda’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. Gan ystyried yr effaith sylweddol y mae data yn ei chael ar ein bywydau personol a phroffesiynol, a’r rôl mae’n ei chwarae ynddynt, mae’r GDPR yn cyflwyno set o ddeddfau sydd wedi’u dylunio i sicrhau bod y safonau uchaf o ddiogelu data wrth wraidd eich gweithrediadau. Bydd y cwrs hwn yn helpu’r rheini sy’n ymwneud â thrin gwybodaeth pobl i allu mabwysiadu’r arferion cydymffurfio hyn o fewn eu mudiad.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn gallu:
- Defnyddio terminoleg Diogelu Data allweddol yn hyderus
- Deall egwyddorion diogelu data
- Defnyddio’r wybodaeth i gyflawni’ch rôl mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth
- Egluro sut i lunio hysbysiad preifatrwydd
- Disgrifio’r prif resymau pam mae elusennau wedi cael dirwyon gan y rheoleiddiwr
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Bwriedir y cwrs hwn i unrhyw aelod o staff sy’n trin data personol fel rhan o’u gwaith bob dydd. Gallai’r rhain fod yn arweinwyr diogelu data, ac unrhyw un sydd â diddordeb cyffredinol mewn diogelu data.
Hyforddwr
Emma Waldron – Aelod o’r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (MCIPS), AMBCS
Mae Emma yn Ymarferydd GDPR achrededig gyda’r Sefydliad TG Siartredig (BCS) ac wedi gweithio’n agos gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) i helpu mudiadau i baratoi ar gyfer y GDPR. Mae hefyd yn weithiwr caffael a chyflenwi siartredig proffesiynol gyda MCIPS ac yn rhoi cyngor ac arweiniad cyffredinol ar gaffael i elusennau, grwpiau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru.
Gofynion y cwrs
Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau ar ein cyrsiau, gofynnwn y canlynol ohonoch chi;
- Ymrwymwch i fynychu holl hyd yr hyfforddiant
- Profwch eich mynediad i Zoom
- Bydd yr hyfforddiant yn dechrau’n brydlon, cyrhaeddwch 10 munud cyn yr amser dechrau, oherwydd mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn
- Mae ein cyrsiau’n rhyngweithiol a chyfranogol a gofynnwn, lle’n bosibl, i’r holl ddysgwyr gael eu camerâu arno a chymryd rhan drwy’r cyfleusterau microffon a sgwrsio
- Rhowch wybod i ni wrth gadw’ch lle os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol, e.e. dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
- Bydd cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau yn cael eu hanfon drwy LUMA, ein ap bwcio ar-lein, sicrhewch fod hysbysiadau gan LUMA wedi’u galluogi er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf
- Os na allwch chi fynychu, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo)