Cynhyrchion Mislif am Ddim
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir Powys yn gweithio i hybu urddas y mislif.
Rydym wedi derbyn arian oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25 i ddarparu nwyddau mislif am ddim i fenywod a merched yn ein cymuned. Fel rhan o’r dyfarniad ariannol, mae’n ofynnol ein bod ni’n cyrraedd cymunedau sy’n ddiffygiol o ran cael eu gwasanaethu. Gan fod yr arian sydd ar gael yn gyfyngedig, bydd y grwpiau hyn ymhlith y rheini sy’n derbyn y cynnig yn gyntaf i dderbyn pecynnau nwyddau mislif am ddim oddi wrth ein cyflenwr, ‘Hey Girls’. Fel a wnaed o’r blaen, gellir gwneud cais am y pecynnau hyn drwy ddefnyddio ffurflen ar-lein. Gweler y taflenni sydd ynghlwm a’r ddolen ganlynol – Nwyddau Mislif Am Ddim – Cyngor Sir Powys
Ymhlith y cymunedau sy’n ddiffygiol o ran gwasanaethau yn ôl Llywodraeth Cymru mae cymunedau Du, Asiaidd a Chymunedau Ethnig Lleiafrifol, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Ceiswyr lloches a ffoaduriaid, pobl anabl a LHDTC+. Rydym ni hefyd am geisio cyrraedd defnyddwyr Banciau Bwyd, y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau trais domestig a theuluoedd ar incwm isel. Defnyddiwch eich dolenni a’ch cysylltiadau i dargedu’r rhai sydd wedi eu cynnwys yn y grwpiau hyn i ddefnyddio’r nwyddau sydd ar gael.
Mae nwyddau mislif ar gael i ddisgyblion ysgol drwy swyddfa’r ysgol neu aelod dynodedig o staff ym mhob ysgol. Mewn ysgolion uwchradd mae’r opsiwn hefyd o beiriannau gwerthu heb arian. I ganfod rhagor am gymorth urddas mislif i ddisgyblion yn yr ysgol cysylltwch education@powys.gov.uk