Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Grantiau Natur ar gyfer Lleoedd Lleol
Mae Cyngor Sir Powys ar y cyd â Phartneriaeth Natur Powys, wedi cael dyraniad o arian oddi wrth Leoedd Lleol ar Gyfer Natur Llywodraeth Cymru.
Nod Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur yw creu natur ar eich stepen drws, ymgysylltu cymunedau i greu a gwella lleoedd ar gyfer natur.
Rhaglen o’r gwaelod i fyny yw Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur sy’n canolbwyntio ar ardaloedd trefol, yn enwedig ardaloedd difreintiedig a/neu’r ardaloedd hynny sydd â mynediad cyfyngedig at natur.
Mae Partneriaeth Natur Powys yn cynnig cyfle i bartneriaid, sefydliadau a gwasanaethau i wneud bid am arian grant i greu lleoedd lleol ar gyfer natur mewn cymunedau.
Mae’r gronfa’n agored i:
- grwpiau cymunedol
- sefydliadau gwirfoddol
- elusennau a sefydliadau trydydd sector eraill
- sefydliadau’r sector cyhoeddus gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned
Rhaid i brosiectau gynnwys o leiaf un o’r canlynol:
- Cynyddu plannu blodau gwyllt
- Cynyddu cyfleoedd tyfu bwyd cymunedol
- Cynyddu plannu coed lleol
- Creu coetiroedd dwys ac amrywiol yr un maint â chwrt tenis
- Creu cynefinoedd mewn gorsafoedd trenau a chyfnewidfeydd trafnidiaeth
- Annog blodau gwyllt a gwella bioamrywiaeth drwy newid arferion torri glaswellt
- Creu gerddi synhwyraidd
- Lleihau’r defnydd o blaladdwyr
- Cynyddu mynediad y cyhoedd at ddŵr yfed
- Adfer neu greu perllannau cymunedol.
Grant ad-dalu yw hwn felly caiff yr arian ei ryddhau ar ôl i chi wneud taliadau i’ch prosiect. Bydd agen i’ch sefydliad allu talu am flaen gostau cyflawni’r prosiect gyda’r ad-daliad yn dod atoch ymhen 30 dydd.
Ymhlith y prosiectau a ariannwyd yn flaenorol mae:
- gwella mynediad at natur
- creu cynefin peillio, dolydd blodau gwyllt a gerddi bywyd gwyllt
- rheoli blodau gwyllt ar leiniau ymyl y ffordd
- cartrefi i anifeiliaid (gwesty chwilod, blychau adar ac ystlumod)
- perllannau, tyfu bwyd cymunedol
- ysgolion coedwig
Rydym yn derbyn ceisiadau am arian i Safleoedd Bywyd Gwyllt Cymunedol. Gallwch ddod o hyd i Nodiadau Canllaw a Ffurflenni Cais isod.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm, 20 Awst 2024.
Grantiau Safleoedd Bywyd Gwyllt Cymunedol (PDF) [229KB]
Grantiau Safleoedd Bywyd Gwyllt Cymunedol Ffurflen Gais (Word doc) [880KB]
Mae gan Cadw Cymru’n Daclus grantiau hefyd ar gyfer Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – pecynnau gosod yw’r rhain, o fân brosiectau garddoi I berllannoedd a gwaith ailwampio ar raddfa eang. I gael rhagor o fanylion, ewch i https://keepwalestidy.cymru/cy/ein-gwaith/cadwraeth/