Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Cynllun grant cyfalaf trydydd sector Cerbydau Trydan (Teithio Llesol).
Bydd y gronfa’n cefnogi prosiectau i ddatblygu capasiti mudiadau’r trydydd sector i ddarparu opsiynau trafnidiaeth carbon isel – beiciau, ecars, eMPVs (cerbydau amlbwrpas) ac e-fysiau mini i gysylltu pobl sy’n byw mewn cymunedau lleol â lleoedd y maent yn teithio iddynt ar gyfer teithiau bob dydd.
Bydd y gronfa’n cefnogi prosiectau sy’n cynyddu gallu sefydliadau lleol i ddarparu opsiynau trafnidiaeth carbon isel.
Blaenoriaethau:
- Cymunedau a Lle
- Cynaliadwyedd amgylcheddol a Sero Net
- Teithio llesol a chynaliadwy
- Meithrin gallu ar gyfer grwpiau lleol
- Opsiynau trafnidiaeth carbon isel (e-gerbydau)
- Cysylltu pobl yn lleol
Ffeithiau Allweddol
400k i’w wario erbyn 30ain o Dachwedd 2024
Cyllid cyfalaf yn unig
Yn agored i bob grŵp a sefydliad trydydd sector
Dyddiad Cau: 12yp (canol dydd) 8fed o Orffennaf 2024
Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad Cwrdd â’r Cyllidwr ar 27ain o Fehefin am 2yp i ddarganfod mwy – cofrestrwch eich diddordeb yma: