Drafft Ymgynghori Agored – Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant yng Nghymru 2024 i 2030
Rydym yn chwilio am ymatebion i Flaenoriaethau ar gyfer Diwylliant 2024 i 2030. Mae’r ymgynghoriad Cymru’n unig hwn yn gwahodd eich barn ar flaenoriaethau arfaethedig ar gyfer diwylliant yng Nghymru. Mae yna 3 blaenoriaeth, wedi’u hategu gan 20 o uchelgeisiau manylach, sy’n nodi blaenoriaethau hirdymor ar gyfer diwylliant. Defnyddiwn y gair diwylliant fel llaw-fer ar gyfer gweithgarwch y celfyddydau, amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd ac amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae datblygiad y blaenoriaethau hyn wedi’i arwain gan bum ffordd gynaliadwy o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): hirdymor, rhagweithiol, integreiddio, cydweithio a chyfranogaeth. Mae fersiwn hawdd ei darllen o’r blaenoriaethau; cyflwyniad a chrynodeb Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a chanllaw Pobl Ifanc i’r blaenoriaethau hefyd ar gael.
Lansio ymgynghoriad: 23ed o Fai 2024
Daw’r ymgynghoriad i ben: 4ed o Fedi 2024