GWERTH Y TRYDYDD SECTOR POWYS
Grymuso'r Gymuned: Rhyddhau Gwerth Trydydd Sector Powys
7 Tachwedd 2024 9.30yb – 4.00yp
Canolfan Gynadledda Cefn Lea, Y Drenewydd SY16 4AJ
Mae’n bleser mawr i’ch gwahodd i Gynhadledd Flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol PAVO, a gynhelir eleni ar ddydd Iau y 7fed o Dachwedd 2024. Gweler y rhaglen atodedig drwy’r DDOLEN HON.
Byddwn yn clywed (drwy fideo) gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, am rôl y sector a gwirfoddoli. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan drafodaeth banel ar “Cydnabod Gwerth Sector Gwirfoddol Powys’ gydag aelodau’r panel – Hayley Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys; Diane Reynolds, Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd a Thwf, Cyngor Sir Powys; Rob Jackson, Hwylusydd gweithdy "Dyfodol Gwirfoddoli"; a Dominique Jones, Ymddiriedolwr PAVO.
Bydd y prynhawn yn cynnwys Sesiynau Gweithdy ar bynciau megis:
'Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (Dangos gwerth mewn £edd)
- Ail-ddyfeisio eich ymgysylltiad gwirfoddol
- Gwerthfawrogi ein Straeon - rôl naratif wrth ddangos effaith
- Dim byd Amdanom Ni Hebddon Ni - Y realiti o weithio gyda dinasyddion wrth ddylunio a darparu gwasanaethau
- Gwerthfawrogi’ch Gweithlu a'ch Gwirfoddolwyr - cyflwyniad i Arweinyddiaeth Tosturiol
Bydd hefyd Marchnad y Trydydd Sector yn rhoi'r cyfle i chi hyrwyddo’ch sefydliad ac i gysylltu â chydweithwyr ar draws y sector a gyda phartneriaid Powys. Mae lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch yn gynnar.
Mae croeso cynnes yn aros i holl wirfoddolwyr, staff ac ymddiriedolwyr a gobeithiwn yn fawr y gallwch ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad. Bydd coffi ar gael o 9.30yb cyn dechrau ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol am 10.00yb.
Mae Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chynhadledd Flynyddol PAVO yn gyfle gwych i gwrdd â chydweithwyr eraill yn y sector, yn ogystal â phartneriaid mewn sectorau eraill i rannu gwybodaeth ac arfer dda.
I roi gwybod i ni os ydych yn gallu mynychu, dewis sesiwn gweithdy ac unrhyw ofynion cwblhewch y ffurflen archebu ar-lein, ffôn: 01597 822191
Edrychaf ymlaen at eich gweld ar 7fed o Tachwedd.
Yr eiddoch yn gywir
Jamie Burt
Cadeirydd, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
PAPURAU CCB
Ffurflen Pleidleisio i Ethol Ymddiriedolwyr – CCB PAVO 2024
Adroddiad Ymddiriedolwr PAVO a Datganiad Ariannol 2023-2024