Rhwydwaith Iechyd a Lles
Mae'n Rhwydwaith Iechyd a Lles yn dod â sefydliadau trydydd sector, grwpiau cymunedol, a phartneriaid allweddol ynghyd i gydweithio ar wella canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Yr hyn y mae'r Rhwydwaith yn ei gynnig
Diweddariadau Rheolaidd – Derbyn y newyddion diweddaraf a datblygiadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Cynrychiolaeth – Sicrhau bod lleisiau ein haelodau a’r cymunedau y maent yn eu cefnogi yn cael eu clywed wrth lunio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol heddiw ac yn y dyfodol.
Cyfleoedd Rhwydweithio – Cysylltu sefydliadau trydydd sector a phartneriaid allweddol i feithrin cydweithio.
Cydweithio – Gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol sy'n datblygu.
Mae'n gwaith yn cyd-fynd â strategaethau rhanbarthol allweddol, gan gynnwys Strategaeth Iechyd a Gofal Powys (2017-2027) a Chynllun Llesiant Powys (2023).
Cadw mewn cysylltiad
Am unrhyw ymholiadau neu i ymuno â’r Rhwydwaith Iechyd a Lles, cysylltwch â:
Sharon Healey – Pennaeth Iechyd, Lles a Phartneriaethau
Jen Hawkins – Uwch Swyddog, Lles Cymunedol
John Williams – Uwch Swyddog, Gwybodaeth, Ymgysylltu a Phartneriaethau
Barod i ymuno?
I ddod yn aelod neu danysgrifio i'n Bwletin Iechyd a Lles, e-bostiwch info@pavo.org, a bydd aelod o'r tîm yn hapus i helpu.


