Iechyd, Lles a Phartneriaethau
Nod tîm Iechyd, Lles a Phartneriaeth PAVO yw:
- Gwrando ar eich pryderon a'ch ymholiadau am y gwasanaethau, grwpiau a gweithgareddau sydd ar gael i'ch teulu a chodi'r rhain gyda sefydliadau statudol, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys i geisio ateb a datrys eich problemau.
- Rhoi llais i chi a bod yn rhan o’r gwaith i ddatblygu’r gwasanaethau y mae'ch teulu’n eu defnyddio.
Ein nod yw cefnogi'r sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd ym Mhowys trwy weithredu fel cyfrwng gwybodaeth gan y trydydd sector; a'r plant a'r teuluoedd y mae'r sector yn gweithio gyda nhw, i waith Bwrdd Dechrau'n Dda a'i ffrydiau gwaith o dan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Gallwch dderbyn diweddariadau rheolaidd ar gyfer y sector, drwy e-bost ac e-fwletinau am y newyddion gan Dechrau'n Dda a ffynonellau perthnasol eraill.
Cefnogaeth Pellach
Gall staff PAVO hefyd gefnogi sefydliadau'r trydydd sector sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn y ffyrdd canlynol:
- Gall Cysylltwyr Cymunedol gefnogi rhieni, ac unrhyw un dros 18 oed, i ddod o hyd i’r grwpiau cymorth a’r gweithgareddau y maent yn chwilio amdanynt. Cysylltwch â'r Cysylltwyr Cymunedol ar draws Powys drwy ffonio - 01597 828 649. E-bost: community.connectors@pavo.org.uk
- Gall Canolfan Gwirfoddoli Powys helpu pob mudiad a grŵp cymunedol i recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr, a gall eu cynorthwyo i hysbysebu'u cyfleoedd ar wefan Gwirfoddoli Cymru. Ffoniwch 01597 822 191 am ragor o wybodaeth, neu ewch i'r wefan ar www.gwirfoddolicymru.net. E-bost: gwirfoddoli@pavo.org.uk
- Gall tîm Datblygu PAVO helpu sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc drwy roi cyngor ar lywodraethu, chwilio am gyllid a darparu hyfforddiant. Ffoniwch 01597 822 191 am gefnogaeth neu e-bostiwch: info@pavo.org.uk
- Gall llinell gymorth Cymorth Powys roi gwybodaeth a chymorth ar eu llinell gymorth 0345 602 7050. Dyma Wasanaeth Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cyngor Sir Powys.
Pobl ifanc, os ydych angen cymorth ar unwaith ffoniwch Childline ar 0800 1111 neu cewch ragor o wybodaeth ar wefan Childline- www.childline.org.uk .
Os yw'n argyfwng, ffoniwch 999.