Swyddogaeth
Y Bartneriaeth Iechyd Meddwl sy’n gyfrifol am ddatblygu gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol fel rhan o’r agenda ‘Byw’n Dda’ a amlinellir yn Strategaeth Iechyd a Gofal Powys er mwyn atgyfnerthu a thrawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant, ond hefyd i sicrhau fod gwasanaethau’n datblygu er mwyn diwallu anghenion deddfwriaeth iechyd meddwl ehangach .
Mae’r Bartneriaeth yn cynnal nifer o is-grwpiau partneriaeth, yn benodol i ymgysylltu ag a gwrando ar leisiau defnyddwyr gwasanaethau a’u gofalwyr, a hefyd i ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl y Trydydd Sector. PAVO sy’n gyfrifol am gefnogi unigolion a sefydliadau i gyfrannu at y grwpiau hyn.
Aelodaeth
- Cyngor Sir Powys
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Tîm Iechyd Cyhoeddus Powys
- PAVO
- Cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr (mae PAVO yn eu cefnogi yn y rôl hon)
Cynrychiolaeth PAVO/Trydydd Sector:
Freda Lacey (Uwch Swyddog PAVO – Iechyd a Llesiant)
Owen Griffin (Swyddog Cyfranogiad Iechyd Meddwl PAVO); mae hefyd yn mynychu cyfarfodydd y Bartneriaeth er mwyn cefnogi cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ar y Bartneriaeth.
Amserlen cyfarfod: bob deufis.