Ein Hanes.
Rydym yn falch o fod wedi bod yn gweithio i gefnogi Powys ers bron i 25 mlynedd.
Ym 1974 crëwyd Cyngor Gwledig Powys o dri Chyngor Cymuned Gwledig annibynnol Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog. Daeth Cyngor Gwledig Powys yn PAVO ym 1994, gan newid ei enw i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys.
Ein Pwrpas
Catalydd
Mae PAVO yn GATALYST ar gyfer gweithredu gwirfoddol.
Llais
Mae PAVO yn mynegi LLAIS dilys ar ran Cymunedau a Thrydydd Sector Powys
Canolbwynt
Mae PAVO yn ganolbwynt gwybodaeth hanfodol
Ein Tim PAVO
Mae PAVO yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant. Mae’n cael ei lywodraethu gan fwrdd ymddiriedolwyr/cyfarwyddwyr. Mae hyd at 9 ymddiriedolwr yn cael eu hethol gan aelodau PAVO yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Mae gan y bwrdd bwerau i gyfethol ac i greu aelodau bwrdd 'ex-officio'.
Ein Bwrdd
Ein Tîm Rheoli Gweithredol
Cefnogi'r Trydydd Sector Cymru.
Mae PAVO yn rhan o Gefnogi Trydydd Sector Cymru, rhwydwaith o sefydliadau cymorth ar gyfer y trydydd sector cyfan yng Nghymru. Mae'n cynnwys yr 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol lleol a rhanbarthol (mae PAVO yn Gyngor Gwirfoddol Sirol) a'r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).
Fel Cefnogi Trydydd Sector Cymru, gweithiwn gyda phobl, gwirfoddolwyr a grwpiau'r trydydd sector i nodi a mynd i’r afael â’r hyn sy’n bwysig iddynt. Er mwyn cyflawni'n nodau a rennir, rydym yn cydweithio â phartneriaid allweddol eraill ar draws y trydydd sector, y sector cyhoeddus, busnes, ymchwil a chyllidwyr.
Mae'n gwaith yn canolbwyntio’n fras ar y themâu cyffredin, sef:
Barod i ymuno?
Mae PAVO yn sefydliad aelodaeth. Mae aelodaeth yn agored i bob mudiad a grŵp y trydydd sector a Chynghorau Tref a Chymuned ym Mhowys, i gyd yn gweithio i gwrdd ag anghenion pobl a chymunedau ar draws Powys. Mae gennym dros 800 o sefydliadau sy'n aelodau a chyswllt rheolaidd â dros 1500 o sefydliadau.
Adroddiadau blynyddol
Bob blwyddyn mae PAVO yn creu Adroddiad Blynyddol sy'n nodi'r hyn rydym wedi'i gyflawni mewn blwyddyn. Cliciwch ar y botwm isod i ddarllen ein hadroddiadau blaenorol a gweld manylion cyfarfodydd cyffredinol blynyddol.